Mae’r ddeuawd amgen Peiriant wedi rhyddhau eu halbwm newydd. ‘Plant’ ydy enw’r record hir ddiweddaraf gan brosiect cerddorol y gwr a gwraig, Rose Linn-Pearl a Dan Linn-Pearl. Mae’r albwm allan ers dydd Gwener 27 Chwefror ar label Recordiau Nawr.
‘Plant’ ydy trydydd albwm stiwdio Peiriant ac mae’n ddilyniant i’w halbwm diwethaf, ‘Dychwelyd’, a ryddhawyd yng Ngorffennaf 2024. Mae teitl yr albwm newydd, ‘Plant’, yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr Cymraeg, ac mae’n archwilio’r tensiwn a phryderon rydym yn eu hwynebu am y dyfodol yn ogystal â’r llawenydd o fyw am y foment.
Bydd sawl cyfle i weld Peiriant yn perfformio’n fyw dros yr wythnosau nesaf.
Gigs Peiriant:
5 Mawrth – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
6 Mawrth – Elysium, Abertawe
7 Mawrth – Haver Hub, Hwlffordd
10 Mawrth – Bank Vault, Aberystwyth
15 Mawrth – Parish Hall, Y Gelli Gandryll