Mae Y Selar wedi rhyddhau record feinyl aml-gyfrannog newydd sy’n cynnwys traciau gan ddetholiad o artistiaid mwyaf amrywiol a chyffrous y sin ar hyn o bryd.
‘Selar3’ ydy enw’r record newydd ac mae’n ddilyniant i’r ddwy record feinyl flaenorol a ryddhawyd gan Y Selar, ac sydd wedi eu hariannu’n bennaf gan Clwb Selar.
Mae’r record ddiweddaraf yn cynnwys traciau gan Martha Elen, Mei Gwynedd, Cyn Cwsg, Mali Hâf, Lafant, Lleucu Non, Betsan, Crwban a Lloyd Steele, Yr Anghysur a Cordia.
A ninnau wedi gweld cerddoriaeth yn cael ei ryddhau’n fwyfwy ar gyfryngau digidol yn unig, nod y prosiect ydy rhoi detholiad amrywiol o draciau gwych ar feinyl, lle maen nhw’n haeddu bod.
Aelodau Clwb Selar fydd yn cael copïau o’r record yn y lle cyntaf, gyda nifer cyfyngedig o’r record ar werth yn ddiweddarach mewn ambell ffair recordiau a digwyddiad arbennig.
Caneuon ‘rhy dda i beidio bod ar feinyl’
Sefydlwyd Clwb Selar yn ystod cyfnod y clo mawr gan roi cyfle i bobl gefnogi gwaith Y Selar yn rhoi sylw i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ond hefyd i fanteisio ar gynnyrch cerddorol unigryw fyddai’n cael ei greu ar gyfer yr aelodau.
Mae aelodau Clwb Selar yn derbyn cynnyrch amrywiol yn ystod y flwyddyn sydd wedi cynnwys Blwyddlyfr Y Selar, crysau T, cap pêl fas, prints arbennig, calendrau cerddorol a mwy. Maent hefyd yn gallu manteisio ar gynigion achlysurol, a gostyngiadau ar gynnyrch cerddorol.
“Dwi’n falch iawn o’r record feinyl diweddaraf ac o’r detholiad o ganeuon sydd arno – dwi’n credu mai hon ydy’r orau o’r dair hyd yma o ran llif y caneuon” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.
“Y syniad gyda’r recordiau ydy’n bod ni’n dewis swp o ganeuon gwych sydd heb gael eu rhyddhau ar ffurf caled, hynny ydy CD, casét neu record feinyl. Er bod feinyl yn boblogaidd eto a sawl albwm yn cael eu rhyddhau ar y cyfrwng, yn yr oes ddigidol sydd ohoni mae llawer iawn o ganeuon sydd ddim ond yn cael eu rhyddhau’n ddigidol ac rydan ni’n teimlo bod hynny’n drueni.
“Yn ein tyb ni, mae’r caneuon yma i gyd yn rhy dda i beidio ymddangos ar ffurf feinyl ac wrth guradu’r casgliadau yma, dwi’n gobeithio’n bod ni’n dal naws cyfnod arbennig yn hanes cerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Fel mae cymaint o gasgliadau aml-gyfrannog wedi ei wneud yn y gorffennol.”
Gyda thrac gan Lleucu Non yn ymddangos ar y casgliad, roedd yr artist ac animeiddiwr yn ddewis amlwg i ddylunio’r gwaith celf ar gyfer yr albwm, ac mae’r darn o gelf ganddi’n ychwanegu’n fawr at y cyfanwaith.
Mae copïau o record Selar3 ar y ffordd i holl aelodau lefel ‘Gitarydd Blaen’, ‘Prif Ganwr’ a ‘Rheolwr’ Clwb Selar, gyda chyfle cyntaf i aelodau lefelau eraill y clwb brynu’r nifer cyfyngedig o gopïau sydd dros ben.
Mae modd ymaelodi a Chlwb Selar unrhyw bryd, a bydd unrhyw un sy’n ymaelodi a’r lefelau uchod yn derbyn copi o Selar3 yn y post fel rhan o’u pecyn ymaelodi – https://selar.cymru/aelod/lefelau/
Rhestr caneuon record Selar3:
- Eilio – Martha Elen (I KA CHING)
- Llais – Mali Hâf (Côsh)
- Diarhebion – Cyn Cwsg (Lwcus T)
- Sdim Mwg Heb Dân – Lafant (Fflach Cymunedol)
- Awst – Betsan (UNTRO)
- Llygaid Cwrw – Lleucu Non (Lwcus T)
- Haul – Crwban gyda Lloyd Steele (HOSC)
- Cynnal Tân – Yr Anghysur (Recordiau RWST)
- Sylw – Cordia (Annibynnol)
- Beth Bynnag a Ddaw – Mei Gwynedd (JigCal)