Mae Rhi Jorj wedi rhyddhau ei sengl ddwbl newydd sy’n cynnwys dwy fersiwn o’r gân ‘Slofi’ gyda’r ail fersiwn yn ymddangos dan yr enw ‘Slofi [Hanner Nos]’.
Mae’r traciau ar gael yn y mannau digidol arferol gan gynnwys Bandcamp Rhi Jorj, ac mae hefyd fideo ar gyfer y gân wedi’i gyhoeddi ar YouTube.
Roedd Rhian yn aelod o’r band ‘UST’ yn y 90au, sy’n fwyaf cyfarwydd am eu cân ‘Breuddwyd’ sy’n dal i fod yn ffefryn gyda chyflwynwyr radio. Roedd hefyd yn aelod o’r band Amledd gyda’i gŵr, y feiolinydd amlwg Billy Thompson, gan ryddhau’r albwm ‘Cyfnod Cyntaf’ yn 2006.
Wedi hynny rhoddodd y gerddoriaeth i’r naill ochr nes iddi gael ei hysgogi i fynd ati i gyfansoddi eto ar ôl cael diagnosis o glefyd Addison ym Mhasg 2023. Penllanw hyn oedd rhyddhau’r EP ‘Amser’ ym mis Mawrth 2025, gyda’r albwm ‘Ysgafn’ yn dilyn y mis Tachwedd canlynol.
“Wedi i mi gael neges glir gan fy nghorff yn ’23 [diagnosis o Glefyd Addison] roedd angen i mi rhoi caniatâd i fy hun wneud hynny – a hynny yn llythrennol” meddai Rhi Jorj wrth drafod neges y gan ‘Slofi’.
“Nid oeddwn yn gallu llonyddu yn hawdd ac yn teimlo yn euog yn aml am wneud – teimlaf fod lot ohonom yn teimlo yr un fath. Felly mae’r gân yn fy atgoffa i fod Slofi pan nad yw fy nghorff ar ei orau a gorffwys ydi’r opsiwn orau ac i wrando a chydweithio gyda fy nghorff fydd yn creu gwelliant yn y pen draw.
“Neges arall y gân yw fod prysurdeb, gofynion a disgwyliadau y byd sydd ohoni bellach allan o reolaeth – nid oes eiliad i’w gael heb fod rhywun yn gallu cysylltu gyda chi mewn rhyw ffordd neu gilydd.
“Amser i gymeryd rheolaeth yn ôl a Slofi – boed hyn yn droi at natur neu feddylgarwch neu jest eistedd yn syllu trwy’r ffenestr a gwrando ar SLOFI.”
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Slofi’: