Bydd y band o Gaerdydd, Hyll, yn ryddhau eu sengl newydd ar ddydd Mercher 3 Mehefin ar label Grwndi Records.
‘Nantgaredig’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddynt sy’n llawn riffiau shoegazey ac sy’n nodi cam beiddgar ymlaen o’u halbwm cyntaf a ryddhawyd yn 2023.
Mae ‘Nantgaredig’ yn gȃn fyfyriol sy’n cyfeirio at wreiddiau’r band yng Nghorllewin Cymru gan dalu teyrnged i artistiaid lleol fel Ysgol Sul a Los Blancos, sydd wedi bod yn ddylanwadau allweddol.
Gan ystyried hynny, roedd yn gwneud llawer o synnwyr i’r band wahodd y cyfansoddwr medrus, Emyr Sion, i gynhyrchu’r trac diweddaraf gyda’r cydweithrediad yn rhoi bywyd newydd i gerddoriaeth Hyll.
Mae Hyll yn ran annatod o sin gerddorol Caerdydd ac yn cynnwys yr aelodau Gruff Parry (prif lais a gitâr), Iwan Williams (gitâr a llais cefndirol), Jac Evans (Bas a llais cefndirol) ac Owain Jones (drymiau). Camodd Bryn Morris i mewn i chwarae’r drymiau ar recordiad y trac hwn tra bod Owain i ffwrdd yn teithio yn Seland Newydd.
Wedi’i recordio dros benwythnos gaeafol yn Stiwdios Cwrw yng Nghaerfyrddin, roedd yn teimlo’n addas i recordio’r gân hon mewn lleoliad sydd wedi croesawu cymaint o artistiaid eiconig, a lleoliad y mae gan y band lawer o atgofion melys ohono dros y blynyddoedd diwethaf.
Roedd y bartneriaeth gyda’r cynhyrchydd yn teimlo’n berffaith ac mae’r band yn edrych ymlaen at gyd-weithio ymhellach gydag Emyr yn y dyfodol.
Nawr yn ôl gyda’i gilydd fel pedwarawd eto, mae Hyll yn barod i ddychwelyd i’r llwyfan yr haf hwn, gyda chyfres o sioeau byw wedi’u cynllunio a deunydd newydd yn barod i’w chwarae am y tro cyntaf, gan nodi eu perfformiadau cyntaf ers 2024.
Dyma’r fideo sydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y sengl: