Mae’r artist o Lansannan, Rhodri Lloyd Evans, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘Camau Bach’ ydy enw’r trac sydd allan ar label Bryn Rock ers 28 Mai.
Mae ‘Camau Bach’ yn ddilyniant i’w sengl ddiwethaf, ‘Storm Heno’, a ryddhawyd fis Ebrill ar ôl i’r gȃn gyrraedd rownd derfynol Cȃn i Gymru fis Mawrth.