Y sither yn seren ar albwm newydd Gorwel Owen

Mae’r cerddor a chynhyrchydd profiadol, Gorwel Owen, yn paratoi i ryddhau ei albwm offerynol newydd. 

‘Yn Iach Eto Teimlo Tant’ ydy enw’r record hir fydd allan ar 13 Mehefin. 

Mae’r record yn seiliedig ar offeryn sither a brynodd Gorwel mewn sêl cist car ym Mona beth amser yn ôl, ond sydd wedi cael bywyd diddorol ers hynny.  

“Mae’r geiriau ‘Yn iach eto teimlo tant’ yn deillio o farwnad i Gruffudd Llwyd gan y bardd Tudur Aled o’r 15g-16g” eglura Gorwel wrth drafod teitl y casgliad. 

“Yn y cyfnod yna, defnyddir ‘teimlo’ i gyfeirio at y weithred o gynhyrchu sŵn ar offeryn, fel ‘canu’ neu ‘chwarae’ heddiw, neu ‘tocar’ (cyffwrdd) yn y Sbaeneg). Yng nghyd-destun marwnad, debyg bod ‘iach’ yn cyfeirio at ‘ganu’n iach’ (ffarwelio) ond, pan welais i’r geiriau am y tro cyntaf, wnaeth y llinell fy nharo mewn ffordd fwy positif. 

“Dyna pam dwi wedi ei benthyg yma – braf teimlo’r tannau a mwynhau’r cyfoeth o synau sy’n codi.”

Bywyd bywiog y sither

Mae Gorwel yn gyfarwydd fel aelod o’r bandiau ‘Sgidia Newydd, Plant Bach Ofnus ac Eirin Peryglys gan arloesi gydag arddulliau cerddoriaeth electroneg yn y Gymraeg.

Ond efallai ei fod yn amlycach fyth fel cynhyrchydd gan gynhyrchu cynnyrch rhai o artistiaid mwyaf Cymru gan gynnwys Datblygu, Tynal Tywyll, Ffa Coffi Pawb, Beganifs, Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci a Melys. 

Er ei fod yn gymeriad diymhongar iawn, mae ei gyfraniad wedi bod yn fawr – cymaint felly nes bod Y Selar wedi penderfynu cyflwyno ein Gwobr Cyfraniad Arbennig iddo yn 2025.

Yr offeryn sither ydy canolbwynt yr albwm, ac mae’r offeryn penodol yma wedi ymddangos ar nifer o recordiau amlwg iawn dros y blynyddoedd yn ôl Gorwel gan gynnwys ‘Ysbeidiau Heulog’ gna Super Furry Animals, caneuon Gorky’s Zygotic Mynci ac, efallai yn fwyaf amlwg,’Hermit Versus the World’ gan Brave Captain. 

“Mae wedi bod mewn drwmgwsg am sbel ond wnaeth ddeffro yn ddiweddar, yn ystod yr un cyfnod a mi’n dechrau prynu modiwls synth ail-law” meddai Gorwel.  

“Prynais y sither mewn sêl ‘car boot’ ym Mona yn ôl yn Oes y Pys.

“Roeddwn i wedi cymryd mai cyfeiriad at y wlad ‘Colombia’ (gyda chamsillafiad) oedd yr enw sydd ar gorff yr offeryn. Dychmygais draddodiad bywiog yn seiliedig ar y math yma offeryn ac roeddwn wedi gwneud nodyn yn fy mhen i fynd i chwilio am enghreifftiau ar y we. 

“Ond, ar ôl gwneud ychydig o ymchwil, mae’n edrych fel bod yr offeryn wedi ei greu gan y Phonoharp Company (Massachusetts) – mae sitherau efo enwau tebyg yn y Sears Catalogue ar gychwyn yr ugeinfed ganrif. Mae’n debyg bod yr enw ‘Columbia’ yn cyfeirio at bersonoliad benywaidd o’r hyn a alwyd y ‘New World’ yn y naratif trefedigaethol; nes ymlaen, yr Unol Daleithiau.” 

Er mwyn cynnig tamaid i aros pryd, mae fideo ar gyfer y trac ‘Glas’ o’r albwm wed’i gyhoeddi ar-lein.

Gadael Ymateb