A hwythau wedi rhyddhau cyfres o senglau i gynnig blas, mae’r band o’r Felinheli, Achlysurol, wedi rhyddhau eu halbwm llawn ‘Noson Braf i Fynd Am Dro’.
Mae’r albwm newydd yn gasgliad o ganeuon ysgafn, hafaidd ac egnïol sy’n dangos creadigrwydd naturiol y band a’u gallu i greu alawon sy’n aros yn eich cof.
Daw’r dyddiad rhyddhau wrth i Achlysurol fwynhau momentwm cynyddol. Cafodd eu sengl ddiweddar, ‘Wyt Ti’n Dod Adra?’, ei dewis yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru – gan dynnu sylw at eu presenoldeb cynyddol a’u dawn i greu traciau llawn hwyl sy’n taro’r nodyn cywir.
Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer yr albwm, Achlysurol ydi’r gwesteion cyntaf erioed ar Pod Côsh – podlediad newydd sbon gan eu label, Recordiau Côsh.
Dan arweiniad rheolwr y label, Yws Gwynedd, mae’r podlediad yn mynd ati i archwilio’r broses greadigol, straeon o’r daith, a phopeth sy’n digwydd yn y byd cerddoriaeth. Mae dechrau’r gyfres gyda Achlysurol yn adlewyrchu’r cyffro o amgylch yr albwm newydd.
I nodi’r lansiad, bydd Achlysurol yn cynnal noson arbennig yn Llofft Felinheli ar 03 Mai – gyda chefnogaeth gan Crwban.
Bydd y noson yn gyfle i wrando ar y caneuon newydd am y tro cyntaf – profiad unigryw yn y lle sy’n ysbrydoli cymaint o’u gwaith.
Gyda cherddoriaeth newydd, podlediad a noson lansio ar y gweill, mae Achlysurol yn camu i gyfnod cyffrous – ac yn gwahodd pawb i ymuno â nhw ar noson braf i fynd am dro yn eu byd creadigol.
Dyma drac agoriadol yr albwm, sydd hefyd yn rhannu enw’r record hir: