Rhyddhau albwm cyntaf Huw Aye Rebals

A hwythau wedi rhyddhau nifer o senglau, ynghyd ag EP yn y gorffennol, mae’r band o Fôn, ​Huw Aye Rebals, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf. 

‘Whisci a Smocs’ ydy enw’r albwm newydd gan y band alt-country Cymraeg, ac mae allan ers 30 Mehefin. 

​Yn dilyn llwyddiant eu EP blaenorol, ‘Boni a Claid’, sydd wedi sefydlu eu sŵn unigryw yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg, mae’r band wedi bod wrthi’n ddiwyd yn y stiwdio yn datblygu a mireinio eu hysbryd creadigol meddent. 

Gyda 12 o draciau newydd sbon, mae ‘Whisci a Smocs’ yn arddangos band sydd wedi aeddfedu, gan fynd â’u sŵn gwlad i gyfeiriadau cwbl amrywiol a chyffrous.

Dywed y band nad yw’r albwm yn cyfyngu ei hun i un genre yn unig. Gall dilynwyr ddisgwyl taith gerddorol gyfoethog sy’n cyfuno roc gwlad reit drwm, baledi gwerin telynegol, ac hyd yn oed agweddau egnïol o bync-roc.

​Mae Huw Aye Rebals yn fand pum aelod o Ynys Môn. Er bod gan bob aelod ei steil unigryw ei hun, yr hyn sy’n eu huno ac yn rhedeg drwy eu gwythiennau yw angerdd cyffredin dros gerddoriaeth gwlad a chariad mawr tuag at berfformio’n fyw. 

Mae teitl yr albwm newydd, ‘Whisci a Smocs’, yn adlewyrchu prif themâu’r caneuon ac yn tynnu ysbrydoliaeth gref o gerddoriaeth Americanaidd draddodiadol. 

Fodd bynnag, mae yna hefyd nod cyfeillgar i drysorau roc y DU; mae’r teitl yn cyfeirio at ac yn cysylltu gydag anthem eiconig Oasis, ‘Cigarettes & Alcohol’ – band arall sydd wedi gadael ôl troed amlwg ar arddull ac agwedd Huw Aye Rebals.

​”Rydym wedi disgwyl bron i flwyddyn am y foment hon, ac mae teimlo bod y 12 trac yma yn barod i’r byd eu clywed yn gyffrous dros ben” meddai Huw Roberts, sef sylfaenydd a ffryntman y band. 

“Mae ein steil wedi esblygu llawer ers ‘Boni a Claid’ – mae yna fwy o egni, fwy o ddyfnder, ac rydym wedi cymysgu popeth o roc trwm i bync a gwerin o fewn y dylanwadau Americanaidd hynny.”

Mae ‘Whisci a Smocs’ ar gael ar yr holl brif lwyfannau digidol arferol.  

Dyma ‘Y Byd ar Chwal’ o’r albwm:

 

 

Gadael Ymateb