Mae Malan ar fin cyflwyno trac newydd ‘After You’, sef ei sengl gyntaf ers llwyddiant ei hail EP ‘Right Here’. Bydd y sengl newydd allan ar 10 Gorffennaf ar Recordiau Côsh. Gyda chymysgedd naturiol o alawon jazz, pop a’i ffordd unigryw o adrodd stori, mae ‘After You’ yn dangos cerddoriaeth Malan ar ei orau.
Cafodd y gân ei chreu gyda’r cynhyrchydd Rich James Roberts yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth. Yn gynharach eleni, teithiodd Malan i Ganada i berfformio yn M for Montréal, gan gynrychioli Cymru gyda Gruff Rhys a chamu ar lwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf. Ar ôl dychwelyd, cwblhaodd ei thaith gyntaf – tair noson, pob un wedi gwerthu allan, yn Y Felinheli, Caerdydd a Llundain – gan ddenu cynulleidfaoedd ar draws y wlad a sefydlu cefnogwyr brwd.
“Roedd rhywbeth am After You oedd yn teimlo’n arbennig i mi o’r eiliad gyntaf” meddai Malan. Dydw i ddim bob tro’n teimlo cysylltiad uniongyrchol â’r caneuon dwi’n eu hysgrifennu, ond roedd hon yn sefyll allan. Fe ysgrifennais yn ystod cyfnod cyffrous iawn yn fy mywyd, o gwmpas fy nhaith i Montreal, ac rwy’n credu bod yr holl deimladau wedi llifo i mewn i’r gan heb i mi drio.
“Mae’r gân hon yn teimlo fel darn o fy nghalon, ac mae pob cam ers ei hysgrifennu – o’i pherfformio’n fyw i fynd â hi i’r stiwdio – wedi gwneud i mi deimlo hyd yn oed yn nes ati. Yn ei hanfod, mae After You yn gân am ymroddiad llwyr – caru rhywun mor ddwfn fel y byddech chi’n ei ddilyn drwy unrhyw beth. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd pobl eraill yn gallu teimlo’r un cysylltiad sydd gen i â’r gân.”
Ym mis Gorffennaf, bydd Malan yn perfformio mewn dwy ŵyl fawr yng Nghymru: yn cefnogi Emeli Sandé yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar 10 Gorffennaf, cyn ymddangos yn Sesiwn Fawr Dolgellau ar 18 Gorffennaf – ei hymddangosiadau cyntaf mewn gŵyliau ers taith yr EP a’i thaith i Ganada.