Rhyddhau EP newydd Shamoniks

Mae’r cynhyrchydd Shamoniks wedi rhyddhau ei EP newydd. 

Arrael’ ydy enw’r record fer gan brosiect electronig arbrofol San Humphreys. 

Mae ‘Arrael’ allan ar y label mae Sam yn ei redeg, sef Recordiau Udishido. 

Wedi’i enwi ar ôl mynydd yn Abertillery, mae’r casgliad  byr newydd hwn yn adfywio’r egni a sŵn bywiog o sîn gerddoriaeth de Cymru.

Wedi ei ysbrydoli gan rhythmau heintus dubstep a garej o’r 2000au, mae ‘Arrael’ yn adlewyrchu profiadau Shamoniks fel myfyriwr yng Nghaerdydd. 

Mae’n dal ysbryd ei nosweithiau gwych mewn digwyddiadau fel Aperture a Bedlam, ble mae’r curiadau pwls a’r awyrgylch electroneg yn tanio ei angerdd am gerddoriaeth trwm. 

Wedi cael ei ysbrydoli gan berfformiadau unigryw gan artistiaid megis Noisia, Sub Focus, a Black Sun Empire yn lleoliadau fel Clwb Ifor Bach, mae’r EP hwn yn dyst i’r profiadau a’i siapiodd, gan gymysgu sŵn nostaligus â phersbectif cyfoes.

Mae EP ‘Arrael’ yn cynnwys tri thrac electroneg wedi’u creu i fynd â’r gynulleidfa ar daith, gan greu profiadau yn y clybiau a gwyliau ledled Cymru a thu hwnt. Mae pob trac yn ddathliad o’r diwylliant bywiog sydd wedi dylanwadu ar Shamoniks fel artist ac yn sicr bydd yn adleisio gyda chlustiau hen a newydd.

Dyma ‘Dal Dy Dir’:

 

Gadael Ymateb