Defod Eisteddfod yn ysbrydoli Mali Hâf 

Oes ’na Heddwch?ydy enw’r sengl ddiweddaraf amserol i’w rhyddhau gan Mali Hâf

Gan ddatblygu ei chymysgedd unigryw o ddiwylliant Cymru a phop amgen, mae Mali Hâf yn dychwelyd gyda thrac sydd wedi’i ysbrydoli gan un o ddefodau pwysicaf yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae llawer yn gweld y ddefod o wainio’r cledd fel symbol o undod, a thraddodiad o barchu heddychiaeth o fewn diwylliant Cymru. Fodd bynnag, yn y trac hwn mae Mali yn ail-ddychmygu’r alawad hynafol hon mewn ffordd bersonol a modern. 

Mae hi’n gofyn i gariad neu ffrind ymuno mewn seremoni fach i nodi dychweliad heddwch yn eu perthynas.

Wrth wraidd y gân mae’r offerynnau taro gan Osian Eifion Land. Mae’r drymiau’n cynnal eu deialog eu hunain, galwad ac ymateb sy’n adleisio cwestiwn canolog y trac: rhythmig, llwythol a hypnotig, mae’r offerynnau taro yn dal y tensiwn emosiynol o feddwl tybed a fydd tawelwch ar ôl y storm.

I Mali, mae’r gân hefyd yn ddathliad o hunaniaeth Gymreig. Mae hi’n gweld harddwch dewr mewn diwylliant sydd â chyhoeddi heddwch yn rhan o un o’i seremonïau pwysicaf.

Y nod yw dwyn i gof draddodiad hynafol gyda hiwmor, lliw a synwyrusrwydd pop. 

Mae iaith weledol defod wreiddiol yr eisteddfod wedi’i golchi mewn pinc a’i gweld trwy lens chwareus. Y canlyniad yw rhywbeth chwareus sydd hefyd yn cynnig amnaid parchus i’r traddodiad hanfodol a byw yma. 

 

Gadael Ymateb