Candelas – sengl newydd, albwm ar y ffordd

Bydd un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, Candelas, yn rhyddhau eu halbwm newydd ym mis Tachwedd. 

Datgelwyd y newyddion am yr albwm wrth iddynt ryddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Dwynwen’, sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 11 Medi. 

‘Pop Cymraeg’ ydy enw’r record hir fydd yn dilyn ar  20 Tachwedd ar label I KA CHING.

Mae’r band eisoes wedi rhyddhau’r trac sy’n rhoi’r enw i’w pedwerydd albwm fel sengl yn gynharach yn yr haf, ac mae’r sengl newydd yn ddilyniant pwerus, grymus arall i’n llorio cyn i’r albwm llawn gyrraedd.

“Cân serch sydd yma yn y bôn”, eglura Osian, prif leisydd y band. 

“Cafodd fy chwaer fabi yn lled-ddiweddar, a’r munud y gwnes i glywed yr enw yn y car, ddoth hook y gân yn syth i `mhen i.”

“Dyma un o’r caneuon mwya difyr i fi sgwennu dw i’n meddwl, a dw i’n mwynhau fod dylanwad Jeff Buckley wedi dod mewn iddi allan o nunlle! 

“Yn y gân yma mae hoff ddarn y band i gyd o’r albwm…, ond nawn ni’m deud lle!”

Rhyddheir yr albwm ‘Pop Cymraeg’ ar 20 Tachwedd a bydd cyfle i weld perfformiad byw o’r cyfanwaith mewn lansiad arbennig yn Theatr Derek Williams, Y Bala ar 28 Tachwedd. Mae tocynnau’r gig ar werth o wefan y theatr.

 

Gadael Ymateb