Tesni Hughes yn cyhoeddi ‘Dim Mwy’

Ar ôl dwy flynedd ers ei sengl ddiwethaf, mae’r artist o Ynys Môn, Tesni Hughes yn dychwelyd gyda sŵn hollol newydd. 

Dim Mwy  ydy enw’r sengl newydd fydd allan ganddi ar label INOIS.

Gan gydweithio efo’r cynhyrchydd Siôn Gwilym o Fleur De Lys mae hi a’r band wedi crefftio cân sy’n cymryd yr holl elfennau sy’n ei gwneud nhw’n wych yn fyw, ac yn eu troi fyny i 10. 

Dros y blynyddoedd diwethaf tydi hi heb stopio, gan gymryd yr amser i ysgrifennu a gigio yn brysur, ond mae hi’n barod i ddod yn ôl i ryddhau cerddoriaeth, ac wedi mwynhau gallu cydweithio efo cynhyrchydd newydd.

“Dwi’m hyd yn oed cofio sut wnaethom ni ffeindio’r sŵn, wnaeth o jyst digwydd” meddai Tesni. 

“Odda ni’n gwrando ar gymysgedd, a be sydd yn digwydd yn y sîn roc ar hyn o bryd, a ffeindio balans fi yn hyna. Da ni’n teimlo fel band bod hi’n amser am sŵn newydd, sŵn mwy a da ni’n edrych ymlaen i chi glywed o.”

Wedi ei recordio yn Stiwdio Graig Las aeth Tesni a’r band i mewn yn hollol agored, ac wrth gydweithio mewn ffordd hollol rwydd daethom ar draws ei sŵn newydd. Mae Tesni yn gyffrous i allu datblygu’r gerddoriaeth a dod a’r caneuon newydd yma’n fyw i gynulleidfaoedd. 

 

Gadael Ymateb