Sefydlu cymdeithas labeli recordiau cyntaf Cymru

Ar ôl bod yn cyfarfod yn achlysurol ers sawl blwyddyn, mae rhai o brif labeli recordiau Cymru wedi penderfynu ffurfioli sefydlu Cymdeithas Labeli Cymru a mynd ati i ddatblygu rhaglen waith flynyddol. 

Bwriad y Gymdeithas fydd gweithio i sicrhau dyfodol cynaliadwy a chefnogol i labeli a cherddorion Cymru.

Mae labeli recordiau annibynnol wedi bod yn rhan allweddol o hanes cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig  ers sefydlu Sain yn y 1960au, label a ysgogodd ffurfio rhai o labeli mwyaf dylanwadol y degawdau diwethaf megis Fflach, Recordiau Anhrefn ac Ankst. 

Ers troad y ganrif, mae niferoedd y labeli yma wedi cynyddu er bod yr heriau y maent yn eu hwynebu wedi cynyddu hefyd. 

Ymysg y labeli sydd yn rhan o’r Gymdeithas mae Recordiau Côsh, INOIS, Fflach Cymunedol, Sain, Recordiau I KA CHING, Recordiau Libertino, Bubblewrap Collective, Recordiau JigCal, Grwndi Records, Sbrigyn Ymborth, Tarw Du, Meraki, Recordiau Sbensh, Lwcus T, Recordiau Bryn Rock, Recordiau MoPaChi, Codi Pais Records, a Mr Phormula. 

Yws yn Gadeirydd cyntaf

Dywed y Gymdeithas bod croeso i unrhyw label sydd yn rhyddhau mwy nag un artist ac yn rhyddhau cynnyrch Cymraeg neu ddwyieithog i ymuno â’r Gymdeithas.

Bydd arweinyddiaeth y Gymdeithas yn newid yn flynyddol i sicrhau bod y rhaglen waith yn esblygu yn gyson. Yn y cyfarfod diwethaf etholwyd Yws Gwynedd o Recordiau Côsh yn Gadeirydd a Hedydd Ioan o label INOIS yn Is-Gadeirydd.

Wrth dderbyn y Gadeiryddiaeth, pwysleisiodd Yws Gwynedd bod sefydlu’r gymdeithas newydd yn arwyddocaol. 

“Mae’r ffaith fod labeli Cymru wedi dod at ei gilydd i gydweithio fel un yn dangos y cynnydd gwych mae’r sîn gerddorol yng Nghymru wedi’i brofi’n ddiweddar” meddai Yws Gwynedd. 

“Drwy osod sylfaeni fel hyn, ‘da ni’n siŵr o godi proffesiynoldeb ein diwydiant, a sicrhau dyfodol cerddoriaeth Gymreig gyda gweledigaeth y rhai sy’n gyfrifol am ei rhyddhau a’i hyrwyddo.” 

Sicrhau twf hirdymor

Roedd yr Is-Gadeirydd yn cytuno bod y datblygiad yn adlewyrchu cryfder y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ar hyn o bryd. 

“Dwi’n anhygoel o gyffrous bod labeli Cymru yn dod at ei gilydd er mwyn datblygu’r partneriaethau cryf sy’n bodoli yn barod yn y diwydiant” meddai Hedydd Ioan. 

“Mae yna gymaint o weithgaredd a gwaith gwych yn dod o Gymru a dwi’n siŵr fydd y Gymdeithas Labeli yn gallu helpu i sicrhau fod y tyfiant yma’n un hirdymor a cynaliadwy. 

“Mae cerddoriaeth Gymraeg yn cyfrannu gymaint tuag at ddiwylliant Cymru ac mae gallu gweld datblygiadau fel yma yn arwydd fod hynny am barhau am amser maith.” 

Mae croeso i unrhyw label sydd am ymuno â’r Gymdeithas, gysylltu drwy ebostio cymdeithaslabelicymru@gmail.com.

 

Gadael Ymateb