‘Pobol yr Ymylon’ ydy enw’r chweched sengl i’w ryddhau gan y canwr Cleif Harpwood oddi ar ei albwm newydd, fydd allan cyn diwedd y flwyddyn.
Mae ‘Pobol yr Ymylon’ yn dwyn yr un teitl ag un o ddramâu llwyfan mwyaf adnabyddus y theatr Gymraeg, drama gan Idwal Jones, ond yn wahanol i neges ddirdynnol y ddrama honno, mae cân newydd Cleif yn ymdrin â sefyllfa Cymry Cymraeg y presennol.
Fel y senglau blaenorol, recordiwyd ‘Pobol yr Ymylon’ yn StiwdioOwz, Sir Benfro, gyda Geraint Cynan a Lee Mason yn cynhyrchu.
Bydd cyfle i weld Cleif yn perfformio ar Lwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, ar brynhawn Mawrth, 4 Awst.