Fideo cerddoriaeth ar gyfer y gân ‘Mae ‘na Lais’ gan TewTewTennau ydy’r diweddaraf i’w gyhoeddi ar lwyfannau digidol S4C Miwsig.
Dyma’r trydydd fideo cerddoriaeth cyfoes newydd mewn cyfres o 10 sy’n cael eu cyhoeddi gan S4C rhwng dechrau Gorffennaf a 3 Medi eleni.
Eleri Parry sydd wedi cyfarwyddo’r fideo ar gyfer ‘Mae ‘na Lais’.