Bydd Mali Hâf yn rhyddhau ei sengl newydd sydd â thema amserol iawn ar 30 Hydref.
‘Bwci-Bo’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddi fydd allan ar Recordiau Côsh, ac mae’r sengl yn cyrraedd jyst mewn pryd ar gyfer Calan Gaeaf.
Mae ‘Bwci-Bo’ yn llawn egni, hwyl a chymeriad, wrth i Mali ddychmygu dawns gyda’r Bwci-Bo. Ond, o dan yr hwyl a’r egni mae thema fwy personol, gyda’r gân yn archwilio’r pethau sy’n gallu ein poeni a’n dilyn drwy berthnasoedd.
“Mae gan bawb ysbrydion sy’n ymddangos yn eu perthnasoedd” esbonia Mali.
“Mae rhai yn ein torri, rhai rydym yn dysgu byw gyda nhw, a rhai rydym yn dawnsio gyda nhw.”
Daeth y syniad am ‘Bwci-Bo’ o gariad Mali at y gair ei hun. Mae hi wastad wedi hoffi sain a chymeriad yr enw, ac wrth ysgrifennu’r gân cafodd ei thynnu at waith un o’i harwyr cerddorol mwyaf, Kate Bush.
Mae Mali wedi edmygu ers tro y ffordd mae Kate Bush yn gallu cymryd gair neu syniad anarferol a chreu byd cyfan o’i gwmpas.
Wrth feddwl am ganeuon fel ‘Babushka’, a’r cymysgedd o adrodd straeon, pop yr 80au a chymeriad unigryw sy’n rhedeg drwy ei gwaith, dechreuodd ‘Bwci-Bo’ ddatblygu ei hunaniaeth ei hun.
Y canlyniad yw cân sy’n cyfuno gwerin Cymreig â phop modern mewn ffordd sy’n teimlo’n hollol naturiol i Mali Hâf. Yn llawn cymeriad, dirgelwch ac egni, mae ‘Bwci-Bo’ yn berffaith ar gyfer cyfnod mwyaf ysbrydol y flwyddyn.