Mae’r cerddor Cymraeg o Birmingham, Ffos Goch, wedi rhyddhau ei sengl newydd yn arbennig ar gyfer Calan Gaeaf eleni.
Enw’r sengl ydy ‘Yma o Hyd (Defod Trefignath)’.
Ffos Goch ydy prosiect y cerddor cynhyrchiol, Stuart Estell, ac mae’n dwyn dylanwad gan gofebion a chromlechi Oes y Cerrig ar gyfer ei sengl ddiweddaraf.
“Fe gwympais mewn cariad â chofebion Oes y Cerrig pan o’n i yn fy arddegau” eglura Stuart.
“Liciwn i ddweud mai’r enwog Julian Cope a’i lyfr campus “The Modern Antiquarian” oedd ar fai ond mewn gwirionedd roedd fy diddordeb wedi hen droi’n obsesiwn erbyn i’r llyfr gael ei gyhoeddi ym 1998.
“Erbyn hyn, wrth gwrs, dyn ni’n deall beth oedd pwrpas cromlechi. Ond pan oedd Thomas Jackson yn ysgrifennu ei ‘Visitor’s Hand-Book for Holyhead’ ym 1853, y ddealltwriaeth gyffredin oedd mai allorau derwyddol oedden nhw – syniad a ddefnyddiwyd gan C.S. Lewis wrth ysgrifennu am “fwrdd Aslan” yn The Chronicles of Narnia.
“Yn y bennod ‘Trefigneth Cromlechi’ mae Jackson yn disgrifio ymweliad â’r safle, lle teimlodd “mysterious solemnity” a chael ryw fath o weledigaeth am “shapes of human victims reeking in sacrifice” ac yn y blaen, ac yn y blaen. Addasiad o weledigaeth Thomas Jackson yw geiriau’r trac yma.”
“Efallai nad ydw i erioed wedi profi gweledigaeth wrth ymweld â safle cyn-hanesyddol, ond fe ges i un o’r “eiliadau tragwyddol” y mae Islwyn Ffowc Elis yn sôn amdanyn nhw yn ei draethawd adnabyddus, wrth sylweddoli gwirionedd llinell Philip Larkin yn ei gerdd “An Arundel Tomb” – “what will survive of us is love”.
“Crëwyd, a chrëir, cofebion oherwydd cariad. Felly dyna darddiad teitl y trac yma – mae’r cariad a deimlai eu hadeiladwyr tuag at y bobl oeddent yn eu claddu’n dal i gael ei fynegi gan y cerrig. Mae’r cariad, fel y cerrig, yn goroesi. Fel yr iaith, maen nhw yma o hyd.”