Wrth i’r clociau droi, a’r teimlad bod gwanwyn yn dechrau cyrraedd o’r diwedd, bydd golygon llawer yn troi tua gwyliau’r haf, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ac yn wir, ar ôl cyhoeddi pwy fydd yn chwarae ym Maes B yn ddiweddar, mae’r Eisteddfod hefyd wedi cyhoeddi darn arall o newyddion arwyddocaol am arlwy gerddorol y Brifwyl eleni, sef bod un o fandiau Cymraeg mwyaf poblogaidd y mileniwm yn ail-ffurfio ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las.
Y band dan sylw ydy Y Bandana, y band a chwaraeodd eu gig olaf ddeng mlynedd yn ôl yn 2016, ond oedd wedi bod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd y sin dros y ddegawd cyn hynny.
Yn wir, llwyddodd y band i ennill teitl ‘Band Gorau’ Gwobrau’r Selar ar bedwar achlysur, sef 2010, 2011, 2012 ac yn 2016.
Aelodau Y Bandana ydy Gwilym Bowen Rhys, Tomos Owens a Siôn Owens, ynghyd â Robin Jones ac maent wedi parhau’n weithgar ers chwalu gyda Gwilym Bowen Rhys yn cael llwyddiant unigol fel cerddor gwerin, Robin fel cynhyrchydd ac aelod o Bwncath a Siôn gyda’i fand Uumar.
Cyhoeddodd yr Eisteddfod mai nhw fydd yn cloi arlwy Llwyfan y Maes ar nos Wener, Awst 7, ar gaeau Llantwd, ger Aberteifi, yn Eisteddfod y Garreg Las. Dyma fydd eu perfformiad cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers Awst 2016.
Dyma Gwilym a Tomos yn trafod ennill gwobr Record Hir Orau Gwobrau’r Selar 2016, ar ôl i’r band chwalu:
- Anwybyddu
- Dysgu
- Nôl
- Nesaf