Dafydd Owain a’i albwm ‘Ymarfer Byw’ oedd enillydd Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.
Datgelwyd y newyddion mewn noson wobrwyo arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar nos Fercher 7 Hydref.
Panel o feirniaid sy’n weithgar yn y diwydiant oedd yn penderfynu ar yr enillydd, ac fe ddaeth ‘Ymarfer Byw’ i’r brig o restr fer o bymtheg o albyms oedd wedi eu rhyddhau dros y deuddeg mis diwethaf. Roedd y rhestr fer eleni’n cynnwys yr albyms Cymraeg ‘Taith’ gan Aleighcia Scott, ‘Phantasmagoria’ gan Ani Glass, ‘Dim Probs’ gan Gruff Rhys, ‘Dan y Dderwen’ gan Dewin, ‘Angel’ gan Cerys Hafana a ‘Cyfarwydd’ gan Mari Mathias.
‘Ymarfer Byw’ ydy ail albwm unigol Dafydd Owain, sydd wedi bod yn aelod o sawl grŵp yn y gorffennol gan gynnwys Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro, Omaloma a Palenco.
Rhyddhawyd yr albwm ym mis Hydref 2025 ac mae wedi creu tipyn o naratif ac ennill cryn glod ers hynny gan gipio teitl ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar ar ddechrau’r flwyddyn eleni, ynghyd a gwobr ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd.
Yn briodol iawn, roedd dangosiad arbennig o raglen yn trafod cefndir yr albwm yn y Galeri, Caernarfon ar nos Lun 5 Hydref, cyn i’r rhaglen gael ei dangos ar S4C y nos Sadwrn canlynol.
Yn ogystal a’r brif wobr, dyfarnwyr Gwobr Trisgell eleni i Mwsog, Casual Smart a Betsan fel rhan o seremoni Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, ac roedd y tri artist newydd yn perfformio fel rhan o’r noson.
Mae Gwobr Trisgell yn cael ei rhoi i dri artist newydd bob blwyddyn er mwyn eu helpu ar eu taith gerddrol ac mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Dom & Lloyd, Talulah, Sage Todz ac Eadyth.
Yn ystod y seremoni hefyd cafodd Mary Hopkin ei hanrhydeddu â Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig.
Sefydlwyd Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gan Huw Stephens a John Rostron yn 2011 ac wrth ennill y wobr mae Dafydd Owain yn ymuno ag enillwyr blaenorol sy’n cynnwys Gruff Rhys, Georgia Ruth, Gwenno, The Gentle Good, Adwaith a Rogue Jones.
Gallwch ddarllen cyfweliad gyda Dafydd Owain am yr albwm yn rhifyn Gwanwyn 2026 o gylchgrawn Y Selar.