Tokomololo yn ail-gymysgu sengl Ifand 

Chwe mis ers lansio’r label, mae Klust Music wedi rhyddhau ei ailgymysgiad cyntaf sef fersiwn newydd o ‘FIND ME’ gan IFAND.

‘FIND ME’ oedd y trac cyntaf i’w ryddhau ar y label nôl ym mis Ebrill, ac mae’r fersiwn newydd wedi’i ail-ddychmygu gan un o gynhyrchwyr mwyaf blaenllaw Cymru ar hyn o bryd a ffrind i’r label, Tokomololo.

Yn gweithio ar y cyd gyda Sain69, lansiwyd Klust Music yn fyw yn Next Door Records Two, Llundain, yn gynharach yn y mis, gan ddod ag artistiaid y label ynghyd ag enwau megis Art School Girlfriend, Tomos ac Ani Glass.

Mae’r ailgymysgiad yn deyrnged i’r frawdoliaeth rhwng y ddau gynhyrchydd IFAND a Tokomololo, a ddechreuodd yn dilyn rhyddhau’r trac cyntaf ar y label.. 

Tokomololo ydy’r cynhyrchydd Meilir Tee Evans, sydd wedi bod yn gwneud ei farc ar y sin dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, ac mae’n falch i allu troi ei law at ailgymysgu gwaith IFAND.. 

“Tro cynta’ i mi glywed ‘FIND ME’, oni’n hooked ar y bassline yn syth, i’r pwynt lle nes i yrru neges i Ifan i holi sut na’th o neud o” meddai Meilir. 

“Oedd cael y cyfle i roi sbin fi’n hun arni yn rhywbeth nes i rili fwynhau neud, felly gobeithio fedrith pobl fwynhau y fersiwn yma gymaint â’r fersiwn gwreiddiol.”

Wrth i IFAND a Tokomololo barhau i ddenu sylw gan bobl fel BBC Radio 6 Music, Selector Radio a CLASH dros y misoedd diwethaf, mae ‘FIND ME (Ailgymysgiad Tokomololo)’ yn cynnig cipolwg ar yr egni newydd sy’n prysur dyfu o fewn cerddoriaeth electroneg o Gymru.

Gadael Ymateb