Wedi derbyniad hynod o dda llynedd i’w senglau diweddaraf, ‘Hud’ a ‘Cacwn Bwm’, mae Huw M yn ei ôl gyda sengl pop seicadelig fuzzy.
‘Bannau Brycheiniog’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddo sydd allan ar label I KA CHING.
Mae ‘na dri pheth wedi ysbrydoli’r gân yn ôl Huw.
“Yn gyntaf, y profiad o deithio adref. Lle bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, mae ‘na siawns dda fod yna fryn neu fynydd yn agos” meddai’r cerddor profiadol.
“Roeddwn i hefyd eisiau sgwennu cân oedd yn dathlu’r ffaith mai ‘Bannau Brycheiniog’ ydy’r enw swyddogol ar y parc cenedlaethol erbyn hyn – dim ond yr enw Cymraeg, fel ‘Eryri’. Mae’n gam dewr ac eitha’ chwyldroadol, mewn ffordd dawel.
“Hefyd, os byswn i’n bod yn hollol onest, wrth i mi gyfansoddi’r gân a chwarae efo geiriau, roedd “bana bana bana” yn ffitio patrwm y gerddoriaeth, felly fe ddaeth “Bannau Brycheiniog” yn naturiol o hynny” cyfaddefa.
Mae’r gân mewn dwy ran eitha’ cyferbyniol a gwahanol i’w gilydd.
Mae’r rhan gyntaf yn egnïol, pigog a staccato-aidd i gyfleu copaon y mynyddoedd, ac mae’r rhan ganol yn fwy seicadelig, gofodaidd ac arallfydol i adlewyrchu mawredd ac ehanger Bannau Brycheiniog – un o’r llefydd gorau yn y byd i wylio sêr, mae’n debyg.
Mae Huw M a’r band – sef Bethan Mai (Rogue Jones), Lucy Goldbridge a Iolo Whelan – wedi bod yn brysur yn recordio albwm newydd yn Stiwdio Tŷ Drwg gyda’r cynhyrchydd amryddawn Frank Naughton, sydd hefyd yn chwarae’r gitâr fas ar y gân yma.
Bydd albwm newydd Huw, y cyntaf mewn dros 10 mlynedd ganddo, yn cael ei ryddhau yn 2027 ar Recordiau I Ka Ching.
Fel gyda’i ddwy sengl blaenorol, yr artist Arwel Micah sy’n gyfrifol am waith celf godidog y sengl newydd, Bannau Brycheiniog.