Dafydd Owain yn cyhoeddi llyfr cyntaf

Ag yntau wedi cael cryn lwyddiant a chydnabyddiaeth gerddorol yn ddiweddar, mae Dafydd Owain hefyd wedi cyhoeddi ei lyfr cyntaf. 

‘Ymarfer Byw (I’r Byw)’ ydy enw cyfrol gyntaf y cerddor sydd wedi’i chyhoeddi gan atro, sef gwasg newydd wedi lleoli yn Aberystwyth.

Mae’r gyfrol yn rhannu ei ymgais bersonol i ddeall sefyllfa anghyfarwydd a gwneud synnwyr o’r byd o’i gwmpas, a hynny mewn cyfnod anodd. Cyfnod a ddaeth a’i ail albwm fel artist unigol, ‘Ymarfer Byw’ i’r wyneb.  

Yn ddiweddar bu i’r albwm hwnnw gwblhau’r hattrick o wobrau cerddorol i recordiau hir Cymraeg –  Record Hir Orau Gwobrau Selar 2026, Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2026, ac y mis hwn, y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2026 – gan ennill canmoliaeth eang gan feirniaid cerddorol a gwrandawyr fel ei gilydd.

Yn y gyfrol, mae Dafydd Owain yn ein gwahodd i’r tywyllwch, gan ein hannog i’w archwilio, ei dynnu’n nes a gwrando ar ei sŵn.  Ceir yma eiriau caneuon ‘Ymarfer Byw’ yn eu cyfanrwydd, ynghyd â cherddi a monologau, a gyhoeddir am y tro cyntaf.

Gyda rhagair gan Manon Steffan Ros, cerdd newydd yn ymateb i’r albwm gan Llŷr Gwyn Lewis, yn ogystal â ffotograffau du a gwyn gan Elin Gruffydd a Dion Jones, mae’r llyfr yn cynnig mwy na geiriau caneuon ‘Ymarfer Byw’ yn unig.

Yn y gyfrol clawr caled hardd hon, cawn gyd-destun ehangach albwm a ddisgrifiwyd gan Guto Elis o Golwg360 fel “stori ddylai Cymru gyfan ei chlywed, a gwrando. Gan nad oes unrhyw albwm gyfoes o’r fath wedi bod yn hanes ein hiaith.”

Mae’r gyfrol hefyd yn gydymaith i’r ffilm ‘Ymarfer Byw (I’r Byw)’, a ddarlledwyd ar S4C ar nos Sadwrn, 10 Hydref.  Ffilm sy’n rhannu perfformiadau byw o rai o ganeuon yr albwm yn ogystal â rhai o’r cerddi a’r monologau sy’n ymddangos yn y llyfr.

Dyma gyfrol ingol ac uniongyrchol. Cyfrol a fydd yn codi gwên ac yna’n mynd â’ch gwynt. Cyfrol amrwd ond hanfodol, sy’n tanlinellu dawn ddihafal Dafydd Owain, nid yn unig fel cerddor, ond hefyd fel ysgrifennwr.

Yng ngeiriau Manon Steffan Ros yn rhagair y gyfrol: “Diolch, diolch i Dafydd Owain am y gwahoddiad i’r tywyllwch gonest, cignoeth, pwysig yma.”

Mae’r gyfrol ar gael o siopau llyfrau ar draws Cymru neu o wefan atro am £14.

 

Llun: Elin Gruffydd 

Gadael Ymateb