Sengl newydd Gwion Phillips a Celyn Stewart 

Mae dau gerddor ifanc addawol wedi dod ynghyd i ffurfio partneriaeth a rhyddhau sengl newydd.

Gwion Phillips a Celyn Stewart ydy’r ddeuawd dan sylw, ac maent wedi rhyddhau sengl newydd ar y cyd sydd allan ar label Recordiau Côsh.

‘Dwi’n Addo Dim’ ydy enw’r trac newydd gan y ddau.

Daeth Gwion Phillips i’r amlwg ar ôl cystadlu yn, a chyrraedd rownd derfynol, Cân i Gymru 2024 gyda’r gân ‘Cysgd Coed’.

Mae hefyd yn aelod o’r band ifanc o Geredigion, Yr Hunanol. Bydd Celyn Stewart yn gyfarwydd i lawer ar ôl ymddangos ar gyfres Y Llais ar S4C yn 2025.   

 

Gadael Ymateb