Cerddoriaeth newydd ar y ffordd gan Gaff

Mae Gaff, sef prosiect unigol y cerddor profiadol Alun Gaffey, yn paratoi i ryddhau cerddoriaeth newydd. 

Bydd Gaff yn rhyddhau dwi sengl dros yr haf, y gyntaf ar 24 Gorffennaf, ac un arall ar 28 Awst – y ddwy ar label Recordiau Côsh. 

Mae Alun Gaffey yn gyfarwydd fel aelod o’r bandiau Pwsi Meri Mew a Radio Luxemburg / Race Horses yn y gorffennol, gan hefyd ryddhau dau albwm unigol dan ei enw llawn yn 2016 a 2020. Ers 2024 mae wedi ail-ymddangos gan ryddhau cerddoriaeth dan ei lysenw, Gaff. 

‘Mêl’ ydy enw’r gyntaf o’r ddwy sengl sy’n dod allan ar 24 Orffennaf.

“Fel mae’r gân yn awgrymu, dwi’n licio mêl” eglura Gaff.

“Pryd bynnag dwi’n mynd ffwrdd i unrhyw le dwi’n dod â mêl lleol adra efo fi. Mae o’n bach o draddodiad erbyn hyn. 

“Cyn heddiw dwi ’di cael mêl hyfryd o Ffrainc, Sbaen, Moroco, Mecsico, Gwlad yr Hâf, Penrhyncoch a Phenryndeudraeth – ond y ffefryn hyd yma yw mêl grug ges i o Speyside yn yr Alban. Wrth reswm, nid dyna yn unig ma’r gân yn sôn amdano!”

Bydd Gaff yn chwarae set acwstig anffurfiol, unplugged yng nghaffi Ffloc yn Nhreganna, Caerdydd, ar ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf ar gyfer mini-lansiad bach yn ystod y dydd. Cyfle i bobl alw heibio am goffi, a sganio côd QR i ffrydio’r sengl meddai’r cerddor. 

Bydd hefyd yn cyhoeddi fideo ar gyfer y gân ar Youtube tua’r un amser. Cafodd y fideo a ei ffilmio ar gamera plant GREENKINDER gwerth £20. 

“Nes i dreulio brynhawn hamddenol yn crwydro o gwmpas Parc Bute yng Nghaerdydd efo fy ffrind a chyd-aelod o’r band, Gwern ap Gwyn, yn chwara’r gitâr ymhlith blodau’r gwanwyn” meddai Alun.  

Dyma ei sengl o fis Medi diwethaf, ‘Elsi’:

 

Gadael Ymateb