Mae label newydd Klust Music, sydd wedi’i lansio ar y cyd gyda Sain69, wedi croesawu’r artist pop arbrofol SHINOBii i’w stabl, gyda’i sengl newydd sbon, ‘DIDUFALLFROMHEAVEN?’, allan ers dydd Gwener diwethaf, 11 Medi.
SHINOBii ydy prosiect unigol y cerddor o Bethel ger Caernarfon, Rhys Grail, sy’n gyfarwydd fel aelod o’r bandiau Gwilym ac Adwaith.
Mae SHINOBii wedi rhyddhau tair sengl hyd yma, ac roedd hefyd yn un o’r artistiaid a gafodd ei gefnogi drwy Gronfa Birthplace Novo Amor y llynedd — yr un rhaglen â gefnogodd artist arall Klust Music, ovajoi.
Yn fyw, mae wedi chwarae llond llaw o sioeau byw, gan gynnwys yn Llundain ar gyfer taith Cylchgrawn Klust yn gynharach yn y flwyddyn.
Mae sengl newydd SHINOBii yn plethu pop disglair gydag haenau o dechnegau electronig amwys. Yn gwyro i’r ochr mwy tyner gyda’r cynhyrchu, mae ‘DIDUFALLFROMHEAVEN?’ yn cynnig blas o’r hyn sydd i’w ddisgwyl ym mhennod nesaf yr artist.
“Mae’r sengl yma’n teimlo fel ryw fath o gateway i sain fwy pendant y prosiect,” eglura Rhys. “Y syniad oedd geni’r prosiect gyda’r senglau y llynedd — tra bod y caneuon nesaf yma’n teimlo fel cam tuag at greu rhywbeth sy’n tyfu, rhywbeth sy’n newid a’n datblygu o hyd.”
“Dwi eisiau i’r prosiect fod yn lle alla’i greu heb unrhyw ddisgwyliadau, yn lle alla’i arbrofi a mynegi fy hun fel ydw’i,” ychwanega Rhys. “Dwi jyst eisiau chwarae a chreu, adeiladu byd fi’n hun, a pheidio â theimlo mor bryderus am bopeth. Dwi eisiau cael hwyl yn gwneud synau gwahanol a dod o hyd i’m ’nghynulleidfa fel yna — dod o hyd i’r bobl sy’n teimlo’r un peth â fi.”