Sengl newydd Knuckle MC 

Mae’r artist hip‑hop Cymraeg Knuckle MC wedi rhyddhau ei sengl newydd ‘Bordeaux’, gan adeiladu ar flwyddyn sydd eisoes wedi ei weld yn ennill gwobr Seiniau Miwsig.

Recordiwyd y trac gyda’r cynhyrchydd Dyl Bili, cydweithiwr sydd wedi bod wrth galon datblygiad cerddorol Knuckle MC dros y misoedd diwethaf ac yn rhan bwysig o’i gyfeiriad newydd.

Mae ‘Bordeaux’ yn cyrraedd wrth i Knuckle MC weithio ar ei albwm cyntaf gyda’r rapiwr a chynhyrchydd Mr Phormula – partneriaeth sy’n helpu i siapio ei sain ac ehangu ei bresenoldeb yn y sin hip‑hop Cymraeg.

Bydd Knuckle MC hefyd yn perfformio ei gig cyntaf erioed ar nos Sadwrn 15 Awst yn Y Maes, Criccieth.

 

Gadael Ymateb