Sengl newydd Lowri Evans

Mae Lowri Evans yn paratoi i ryddhau ei sengl newydd – ‘O pe bawn i’ ydy enw’r trac fydd allan ar 10 Gorffennaf. 

Ysgrifennodd Lowri’r gân hon gyda’i nai a’i nith mewn golwg ac mae wedi defnyddio eu henwau yn y gân…’Afon’ a ‘Eira’. 

Mae’r gân yn sôn am fyd natur…afonydd, mynyddoedd, eira, y lleuad, ei chryfderau, pa mor hanfodol ydyn nhw, sut maen nhw’n ein hamddiffyn ni a sut rydyn ni fel dynolryw yn amharchu natur heb ystyried y math o ddyfodol rydyn ni’n ei greu ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Mae Lowri Evans (o Drefdraeth Sir Benfro) yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd miwsig Cymru fel artist dwyieithog sydd wedi bod yn ysgrifennu, recordio a pherfformio ers amser. Mae Lowri wedi cael ei hyrwyddo ar BBC 6 Music, Bob Harris ar BBC Radio 2, Radio Cymru/Wales, wedi perfformio ym mhobman o Ŵyl y Dyn Gwyrdd, Cambridge Folk i Sesiwn Fawr, o King Tut’s yn Glasgow i’r Union Chapel yn Llundain; o Gymru i America.

Cafodd Lowri ei geni a’i magu yn Nhrefdraeth, Sir Benfro – dafliad carreg o leoliad Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las fis Awst – ac mae nifer o’i chaneuon yn ymdrin â’i milltir sgwar. Un o’i chaneuon adnabyddus yw ‘Merch y Myny’ sy’n trafod ei magwraeth ar lethrau Carn Ingli a’i pherthynas ddofn â’i hardal genedigol. 

Yn 2026 mae Lowri yn dathlu 20 mlynedd ers iddi ryddhau ei halbwm cyntaf a ‘Merch y myny’ arni! Bydd Lowri’n rhyddhau cerddoriaeth newydd y flwyddyn hon gydag albwm o gasgliad o’i chaneuon dros yr 20 blynedd dwethaf yn cael ei ryddhau erbyn Eisteddfod y Garreg Las yn Sir Benfro hefyd.

 

Gadael Ymateb