Mae’r band MWSOG wedi ryddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Llef Hir’ ers 13 Chwefror.
MWSOG ydy prosiect diweddaraf yr artist gwerin cyfarwydd o Geredigion, Mari Mathias, ac mae’r sengl newydd allan ar label BWGiBWGAN.
Mae’r gân newydd gan y band yn adlewyrchu ar alar, dicter a’r her sy’n gysylltiedig â hanes Cymru.
Mae’r gân yn edrych yn ôl ar gyfnodau pan oedd siarad Cymraeg yn cael ei wahardd a sut mae effeithiau hynny yn dal i afael ar gymdeithas hyd heddiw.
Wedi’i recordio ym Mwnci Studios, a’i ryddhau ar ddydd Gwener 13 Chwefror, sef Dydd Miwsig Cymru, ond hefyd dyddiad Tynged yr Iaith, araith bwysig gan Saunders Lewis yn 1962 am ddyfodol y Gymraeg.
Dyma fersiwn fyw o’r trac o sesiwn Gorwelion diweddar: