Mae Breichiau Hir wedi rhyddhau eu sengl newydd – ‘Pob Un Brwydr’, sydd allan ar label Halen Records.
Yn ôl y band mae’r trac yn llawn myfyrdod llym a herfeiddiol ar wrthdaro mewnol, hunan-ddisgwyliadau, a blinder creadigol.
Mae ‘Pob Un Brwydr’ yn troi oddi wrth frwydr allanol ac yn edrych i mewn yn lle. Wrth ei wraidd mae’r cyfaddefiad ailadroddus: “Dwi’n gweld fy hun / Yn ymladd fi” – cydnabyddiaeth clir o ymladd yn erbyn eich hun.
“Mae’r gân yn ymwneud â gwrthdaro â chi’ch hun – cydnabod eich hypocrisy a dal i ddewis gwthio yn ôl, hyd yn oed pan fyddwch chi’n gwybod ei fod yn anobeithiol” eglura Steffan Dafydd, canwr y band.
Mae’r gân yn archwilio pwysau disgwyliad, yn enwedig y disgwyliadau rydyn ni’n eu rhoi arnom ni ein hunain – i barhau i symud ymlaen, i aros yn gynhyrchiol, hyd yn oed wrth i bethau farw mas. Yn hytrach na chynnig datrysiad, mae ‘Pob Un Brwydr’ yn pwyso at wrthwynebiad.
Nid oes dianc clir yma – dim ond ystyfnigrwydd, hunanymwybyddiaeth, a’r gwrthodiad i esgus nad yw’r frwydr yn parhau. Mae’r alaw yn llwm ond yn herfeiddiol, gan gydnabod mai’r frwydr ei hun yw’r pwynt weithiau.
“Roeddwn i’n dal i feddwl am ddiwedd y ffilm Me, Myself & Irene, lle mae Jim Carrey o’r diwedd yn sefyll lan i’w hun ag yn erbyn ei hun yr pryd, yn y ffordd fwyaf slapstick posibl” meddai Steff.
“Er bod y ddelwedd yna yn un gwirion, roedd e’n teimlo’n apt iawn – mae’r gân a’r ffilm yn rhannu’r un syniad corny o hunan-wrthwynebiad.”
Yn gerddorol, mae’r trac yn dal Breichiau Hir ar eu mwyaf uniongyrchol, gan baru brys â chyfyngiad a chaniatáu i’r tensiwn eistedd yn anghyfforddus yn hytrach na cynnig datrys problem.
Mae fersiwn byw o’r gân hefyd fel ochr-B, wedi’i recordio yn One Louder Studio, ble mae’r band wedi recordio eu dau albwm a sesiynau byw diwethaf, gan dynnu’r gân yn ôl a datgelu ei hymylon crai, gan amlygu eu crefft fel band byw cyffrous a thrawiadol.
Y gân yma yw eu trac stiwdio gyntaf ers rhyddhau eu halbwm, ‘Y Dwylo Uwchben’ ym mis Ebrill 2025.