Mae’r artist o Feirionnydd, Rhi Jorj, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘Oes Gen Ti Le?’ ydy enw’r trac newydd ganddi sydd allan ganddi’n ddigidol.
Mae Rhian gerddor profiadol ers iddi fod yn aelod o’r band ‘UST’ yn y 90au, ac roedd hefyd yn aelod o’r band Amledd gyda’i gŵr, y feiolinydd amlwg Billy Thompson.
Ar ôl cyfnod o ddistawrwydd cerddorol, daeth i’r amlwg unwaith eto yn 2023 wrth iddi ddechrau rhyddhau ei chaneuon ei hun. Penllanw hyn oedd rhyddhau’r albwm ‘Ysgafn’ ym mis Tachwedd 2023. Roedd eisoes wedi rhyddhau’r EP ‘Amser’ yn gynharach yn y flwyddyn, ac fe enillodd yr EP hwnnw wobr ‘Record Fer Orau’ yng Ngwobrau’r Selar fis Chwefror diwethaf.
Bydd cyfle i weld Rhian yn perfformio mewn cyfres o gigs gyda’i band dros yr hydref, gyda gigs yn Rhuthin, Caernarfon, Trefdraeth ac Abertawe.
Mae sôn hefyd ei bod wrthi’n recordio ar hyn o bryd ac y bydd yn rhyddhau albwm newydd ym mis Mawrth 2027.
Gigs Rhi Jorj:
1 Tachwedd: Ystafell Ymgynnull – Rhuthin
13 Tachwedd: Segontiwm – Caernarfon
21 Tachwedd: Capel Bethlehem – Trefdraeth
12 Rhagfyr: Tŷ Tawe – Abertawe