Taith hyrwyddo EP Malan

Mae’r gantoes dalentog Malan yn paratoi ar gyfer taith hyrwyddo ei EP diweddaraf. Bydd Malan yn perfformio mewn tri gig yn ail hanner mis Mawrth, gyda dyddiadau yn Y Felinheli, Caerdydd a Llundain.

Rhyddhawyd yr EP ‘Right Here’ ganddi nȏl ym mis Tachwedd 2025 ac ar y pryd roedd ar fin hedfan i Ganada i berfformio yng ngŵyl M for Montreal.

Mae’r daith ddiweddaraf i hyrwyddo’r record fer yn dipyn nes at adref, ac wrth i ddyddiadau’r gigs agosau mae wedi cyhoeddi pa artistiaid fydd yn ei chefnogi ar y daith.

Bydd Lois Emanuel yn cynnig cefnogaeth iddi yn Llofft, Y Felinheli ar 14 Mawrth, tra bod yr artisti Bethan yn cefnogi yn Paradise Garden, Caerdydd ar 19 Mawrth.

Y gantores ifanc addawol Betsan Lees fydd y gefnogaeth yn gig olaf y diath yn Next Door Records West yn Llundain ar 20 Mawrth. 

Gigs taith Right Here:

15 Mawrth – Lloft, Y Felinheli gyda Lois Emanuel

19 Mawrth – Paradise Garden, Caerdydd gyda Bethan

20 Mawrth – Next Door Records, Llundain gyda Betsan