Mae Carwyn Ellis & Rio 18 wedi rhyddhau eu trydydd albwm mewn ychydig dros flwyddyn — ‘Hȃf’.
Dyma gamp arbennig i’r cerddor cynhyrchiol, yn enwedig o ystyried gwaith Carwyn gydag artistiaid eraill yn y cyfamser, gan gynnwys Edwyn Collins a’r North Mississippi Allstars.
Mae’r albwm yn parhau ble gadawodd eu halbwm diwethaf, ‘Fontana Rosa’, gyda thua hanner y traciau wedi’i recordio’n analog ar dâp yn Gizzard Studios yn Llundain, ac un gân olaf o’u sesiynau yn y stiwdio chwedlonol, ond sydd bellach wedi cau, Toerag Studios.
Ceir adleisiau yma o’u halbwm cyntaf, ‘Joia!’. Cafodd y traciau eu harwain unwaith eto gan y cynhyrchydd a’r aml-offerynnwr Brasiliaidd gwych, Kassin, a oedd yn ymweld â Llundain yn gynharach yn y flwyddyn. Awgrymodd wneud rhywbeth gyda’i gilydd…felly dyna a wnaethant.
Ceir hefyd ddychweliad at ddylanwadau Brasiliaidd mwy pendant — mae ‘Tonnau Ar Tonnau’ yn deyrnged i ‘Onda’ gan Cassiano, tra bod gan ‘Keep On Smiling’ naws samba / choro. Mae ‘Gwenyn y Gwanwyn’ (sydd am helpu gwenynen mewn trafferth) yn gyfeiriad clir at samba-ffync seicadelig Antonio Carlos e Jocafi ond mae arddulliau Lladinaidd eraill yn amlwg hefyd: ar y salsa hudolus Bella Estrella neu’r faled Andeaidd hiraethus, ‘Lágrimas Frías’.
Mae’r gantores Eingl-Frasiliaidd Nina Miranda yn ymddangos ar ‘Shades of Red’, tra bod aelod newydd i deulu Rio 18 (o leiaf ar y record), Miriam Isaac, yn dod ag elfen R&B go iawn i’r albwm, ynghyd â rhai deuawdau hardd. Mae ‘Como Te Amo’ a’r hyfryd ‘Whistling Sands’ hefyd (am draeth yng Ngogledd Cymru) yn sefyll allan.
Yn wahanol i’r ddau albwm cyntaf gan Rio 18, recordiwyd ‘Hȃf yn Llundain a Chymru, a’i gymysgu dros bum diwrnod prysur yn Rio. Dridiau’n ddiweddarach, a chafodd yr albwm ei orffen, ei fastro a’i anfon i’r ffatri wasgu.
Yn olaf, mae’r gân ‘Hȃf’ a’r albwm ei hun yn deyrnged i’r diweddar Haf Morris, athrawes gerddoriaeth Carwyn yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
“Fe wnaeth ei ffocws, ei harweiniad a’i hamynedd fy siapio fel neb arall” meddai Carwyn.
“Rwy’n gobeithio ei bod hi wedi mwynhau fy nhaith, o ble bynnag y mae hi’n gwylio. Diolch, Haf.”
Dyma fideo ‘Tonnau ar y Tonnau’: