‘Yn y Bôn’ – Sengl newydd Elis Derby
Mae sengl newydd Elis Derby, ‘Yn y Bôn’, wedi’i ryddhau’n swyddogol heddiw, 17 Mai. Mae Elis yn enw a llais cyfarwydd ar ôl bod yn aelod o’r grŵp roc o Fangor, Chwalfa, cyn dechrau gwneud enw i’w hun fel artist unigol llynedd.