Lansio label Klust gyda sengl IFAND 

Mae gwefan gerddoriaeth a chylchgrawn annibynnol Klust wedi cyhoeddi ei label newydd sbon, Klust Music gan ryddhau sengl gyntaf IFAND. 

Gan ganolbwyntio ar ryddhau cerddoriaeth gan artistiaid electroneg newydd o Gymru, daw sengl gyntaf y label gan y cynhyrchydd o Ddyffryn Ceiriog, IFAND – ‘FIND ME’ ydy enw’r trac. 

Wedi’i ddylanwadu gan y teimlad o ddod o hyd i gysur mewn awyrgylch anghyfarwydd, mae’r trac yn rhan o’i EP ddwyieithog – fydd yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae cerddoriaeth IFAND yn plethu alawon heintus gyda churiadau hwyrnos hypnotig. 

“Mae’r trac, a’r EP yn ei gyfanrwydd, yn neidio rhwng dydd a nos ac yn llifo o gefn gwlad nôl adra’ i awyrgylch dinesig, prysur” eglura Ifan Davies, sef IFAND. 

“Mae’n tynnu ar fy mhrofiad o symud i fyw i Fanceinion a’n dwyn dylanwad gan arddulliau clwb, jazz a techno.”

Mae’r prosiect yn gydweithrediad creadigol rhwng Klust a chwaer label newydd Sain, Sain69 – gan adeiladu ar ymgyrchoedd blaenorol megis ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’ a’u llwyfan â gyd-guradwyd yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2025.

Wedi’i gynhyrchu yn defnyddio technegau analog a’i fastro yn Stiwdio Sain, mae ‘FIND ME’ allan nawr via Klust Music.