Albwm newydd KEYS
Mae’r band profiadol iawn, KEYS, wedi rhyddhau eu halbwm diweddaraf. ‘Acid Communism’ ydy enw’r record hir newydd ganddynt a dyma eu halbwm mwyaf beiddgar ac eang hyd yma yn ôl y band – dogfen gyfoethog o greadigrwydd ar y cyd, archwilio sain, a chwilfrydedd athronyddol.