100 tan ‘50’

Gydag union 100 o ddyddiau i fynd tan y penwythnos mawr, mae trefnwyr gig 50 wedi cyhoeddi enw’r band diweddaraf i ymuno â’r parti.

Rhif 36 o’r hanner cant o artistiaid fydd yn perfformio yw Ail Symudiad – y grŵp poblogaidd o Aberteifi sydd wedi bod yn amlwg yn y sin gerddoriaeth Gymraeg ers 1978.

Gyda dim ond 100 niwrnod i fynd tan y digwyddiad, bydd yr ychwanegiad diweddaraf i’r amserlen yn siŵr o gynyddu’r cyffro am gig sy’n dathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae’r gig yn cael ei gynnal dros benwythnos 13-14 Gorffennaf yn y Pafiliwn Cenedlaethol ym Mhontrhydfendigaid, ger Aberystwyth.

Pontio

Ffurfiwyd Ail Symudiad yn wreiddiol gan y brodyr Wyn a Richard Jones, a aeth ymlaen i ffurfio label Fflach.

Rhyddhawyd record gyntaf y grŵp ar ffurf sengl ‘Whisgi a Soda/Ad Drefnu’ ym 1980, ac fe ymddangosodd eu cynnyrch diweddaraf ar ffurf yr albwm Rifiera Gymreig yn 2010.

“Mae Ail Symudiad yn enghraifft berffaith o fand sydd wedi pontio’r degawdau” meddai un o drefnwyr 50, Huw Lewis.

“Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn i’r Gymdeithas dros y blynyddoedd, ac wrth gwrs wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygiad y sin gyda label Fflach.”

“Does dim amheuaeth y bydd croeso mawr iddyn nhw ar lwyfan 50.”

Mae tocynnau penwythnos 50 ar werth o wefan y digwyddiad rŵan.

Ymysg y 35 artist oedd wedi eu henwi cyn heddiw mae Bryn Fôn, Yr Ods, Meic Stevens a Gruff Rhys.