100 tan ‘50’
Gydag union 100 o ddyddiau i fynd tan y penwythnos mawr, mae trefnwyr gig 50 wedi cyhoeddi enw’r band diweddaraf i ymuno â’r parti.
Gydag union 100 o ddyddiau i fynd tan y penwythnos mawr, mae trefnwyr gig 50 wedi cyhoeddi enw’r band diweddaraf i ymuno â’r parti.
Mae tocynnau gig mawreddog ’50’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar werth ers hanner dydd heddiw. Cyhoeddodd un o’r trefnwyr, Huw Lewis, yn fyw ar raglen Lisa Gwilym ar C2 nos Lun bod nifer cyfyngedig o 250 o docynnau’n mynd ar werth am bris gostyngol o £20 o hanner dydd heddiw.