Fideo sengl newydd W H Dyfodol

Fe ryddhawyd fideo newydd gan W H Dyfodol, band Haydon Hughes, (Y Pencadlys, Land of Bingo gynt) gan Ochr 1/Hansh yn ddiweddar, ac rydan ni’n awyddus iawn i chi ddilynwyr Y Selar gael cip arno os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.

W H Dyfodol ydy prosiect diweddaraf yr enigma Haydon, a cafodd y fideo newydd ei gyfarwyddo gan y cerddor, cyflwynydd a gwneuthurwr ffilm, Griff Lynch

Bydd y gân yn cael ei rhyddhau fel sengl fis Hydref, ond yn y cyfamser cymrwch olwg ar y fideo isod.