Cymharol dawel fu’r grŵp o Glwyd, Anelog, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf ond roedd Y Selar yn falch gweld sengl newydd allan ganddynt ddydd Gwener diwethaf.
‘Papur Arian’ ydy’r sengl ddiweddaraf yn y gyfres Senglau Sain gan label Rasal gan ddilyn senglau gan Bitw (Rhagfyr), Pys Melyn (Ionawr) a Twinfield (Chwefror).
Roedd gobeithion mawr am ddyfodol Anelog gwpl o flynyddoedd nôl, cymaint felly nes iddynt gael eu dewis ar gynllun Gorwelion BBC Cymru yn 2016. Trueni felly bod grŵp wedi tawelu tipyn dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ond, mae’r sengl newydd ynghyd â fideo o’r trac yn rhoi gobaith y gwelwn ni adfywiad bach ganddyn nhw.
Band o Ddinbych yw Anelog, ac fe gyfansoddwyd y gân gan Danny Cattell a Lois Rogers. Yn ôl Danny roedd y broses o gyfansoddi’r gân yn debyg iawn i’r hyn oedd yn digwydd yn y dyddiau cynnar ganddynt… “sef Lois a fi’n dod at ein gilydd i weithio ar syniadau”.
Recordiwyd ‘Papur Arian’ yn Stiwdio Whitchurch, Dinbych hefo Danny yn cynhyrchu a pheiriannu.
Ffilmiwyd fideo i gyd-fynd â’r sengl newydd ar gyfer Ochr 1 a HANSH, a gallwch wylio hwn isod!