HMS Morris yn cyhoeddi fideo ‘Phenomenal Impossible’

Mae HMS Morris wedi rhyddhau fideo newydd ar gyfer un o ganeuon eu sengl ddwbl ddiweddaraf.

Rhyddhawyd y caneuon ‘Phenomenal Impossible’ a ‘Cyrff’ fel sengl ddwbl wythnos diwethaf, ar 13 Gorffennaf, fel tamaid i aros pryd cyn i’r grŵp ryddhau eu halbwm diweddaraf ym mis Medi.

Cyhoeddodd y triawd yn ddiweddar eu bod nhw wedi ymuno â label Recordiau Bubblewrap, a’r sengl ddwbl ydy eu cynnyrch cyntaf ar y label.

Mae’r fideo ar gyfer ‘Phenomenal Impossible’ wedi’i gyfarwyddo gan ddau o aelodau’r band, Heledd a Sam, gydag ychydig o gymorth gan AJ Stockwell sy’n rhannu tŷ gyda nhw ar hyn o bryd.

Bydd seren y fideo yn gyfarwydd i rai, sef Owain Griffiths, oedd yn aelod o Violas, a sydd bellach yn rhyddhau ei gerddoriaeth electroneg dan yr enw Carw.

Enw albwm newydd HMS Morris fydd Inspirational Talks, ac fe fydd yn cael ei ryddhau ar 21 Medi. Dros y dyddiau diwethaf mae’r grŵp hefyd wedi cyhoeddi rhestr o gigs fydd yn digwydd o gwmpas dyddiad rhyddhau’r albwm, gyda nosweithiau yng Nghaernarfon, Bryste, Caerdydd a Chaerfyrddin wedi’u cadarnhau.

Yn ôl y grŵp, bydd mwy o ddyddiadau’n cael eu hychwanegu i’r rhestr yn fuan. Bydd Smudges, sef prosiect Rhodri Brooks a Eugene Capper, yn cefnogi ar bob dyddiad.

Gigs mis Medi HMS Morris:

13 Medi: Galeri Caernarfon

16 Medi: HY Brazil – Bryste

21 Medi – Clwb Ifor Bach, Caerdydd (Lansio’r albwm newydd)

22 Medi – Y Parrot, Caerfyrddin