Rhyddhau fersiynau newydd o ganeuon Jarman

Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn fawr i Geraint Jarman, ac mae newyddion da pellach i ffans y cerddor o Gaerdydd.

Rhyddhawyd ei albwm diweddaraf, y casgliad reggae Cariad Cwantwm, mewn pryd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yn y brifddinas eleni. Ac yna, perfformiodd Jarman yn ei gartref ysbrydol ym Mae Caerdydd, mewn gig cofiadwy yn y Pafiliwn yng Nghanolfan y Mileniwm yn ystod yr wythnos.

Ym mis Tachwedd bydd yn perfformio dau gig o bwys yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a Pontio, Bangor a does dim arwydd bod y cerddor bytholwyrdd am arafu’n fuan.

A bellach mae label Geraint Jarman, Ankstmusik, wedi cyhoeddi bod albwm diweddaraf y cerddor yn esblygu, a hynny yng ngwir draddodiad diwylliant cerddoriaeth reggae wrth i’r label ryddhau y cyntaf mewn cyfres o Cariad Cwantwm Dubs heddiw.

Tyllu’n ddwfn i’r albwm

Yn ôl y label, bydd y fersiynau hyn “yn ail ymweld, ail ddiffinio a tyllu’n ddwfn i fewn i’r Cariad Cwantwm gwreiddiol. Trwy archwilio’r rhythmau, seiniau a chaneuon gwreiddiol mi fydd mixes clwb, fersiynau dread a dubs dwfn a prin yn dod i fodolaeth i ategu at sain organig y albwm gwreiddiol.”

Ganwyd CWANTWM DUB # 1 mae’n debyg pan rannodd Geraint Jarman yr albwm gyda Kris Jenkins – pherchennog stiwdio Signal Box yng Nghaerdydd lawr yn y dociau mewn noson chwyslyd yn nhafarn Mischief, oddi ar Bute St, wrth wrando ar senglau gan Black Uhuru.

Bydd canlyniad y sesiwn cymysgu hwyrnos a ddilynodd hyn gydag alter ego Kris, Sir Doufous, ar y mix, nawr ar gael i bawb gael clywed.

Y traciau sydd wedi’i hail-gymysgu ar gyfer CWANTWM DUB # 1 ydy trac cyntaf yr albwm ‘O Fywyd Prin’ (‘O Fywyd Prin Doufus Redux #1’, a thrac rhif 7 ar y casgliad, ‘Troedio’ (‘Trodding Version #2’).

Gigs Geraint Jarman:

7 Tachwedd – Llyfrgell Maindee Casnewydd
9 Tachwedd – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
10 Tachwedd – Pontio, Bangor

Dyma fersiwn wreiddiol ‘O Fywyd Prin’: