Mae’r ardderchog Lleuwen wedi rhyddhau sengl newydd fel tamaid i aros pryd nes rhyddhau ei halbwm diweddaraf ddydd Gwener yma.
Rhyddhawyd ‘Hen Rebel’ gan Recordiau Sain ddydd Gwener diwethaf (16 Tachwedd), ac mae’r trac yn ymddangos ar ei chasgliad newydd Gwn Glân Beibl Budr sydd allan ddydd Gwener yma, 23 Tachwedd.
Bu’r albwm ar y gweill ers tipyn o amser – fe’i recordiwyd yn Stiwdio Sain yn ystod ail wythnos Rhagfyr 2017.
Gyda’r recordio yn seiliedig ar berfformiadau byw yn y stiwdio fe gasglodd Lleuwen nifer o gerddorion amrywiol i chwarae ar y record gan gynnwys y delynores Llio Rhydderch, y pianydd jazz Neil Cowley, y tenor clasurol Rhys Meirion, Owen Lloyd-Evans ar y bas dwbl ynghyd â’r brodyr Dafydd ac Aled Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog.
Yn ôl y label, o ganlyniad i’r cerddorion a’r dull recordio mae’r record yn amrwd, uniongyrchol, yn aml wedi ei fyrfyfyrio, yn gignoeth, yn lân, ac yn fudr.
Mwynhau arbrofi
“Mae’r band yn gymysgedd o gerddorion ydw i wedi gweithio efo nhw ar wahanol gyfnodau o ’mywyd” meddai Lleuwen.
“Maen nhw’n dod o gefndiroedd cerddorol gwahanol iawn…jazz, clasurol, gwerin, roc…ond dim ots am y genres…. nes i ddewis y cerddorion hyn am eu bod nhw i gyd yn bobl sy’n mwynhau arbrofi efo sŵn.
“Roedd y caneuon eu hunain yn gyflawn yn barod felly roedd modd inni arbrofi gyda’r trefniannau yn y stiwdio a mynd i unrhywle gyda rheiny. A heblaw am Aled a Daf Cowbois’, doeddan nhw ddim yn nabod ei gilydd cynt. Roedd yn hwyl ac yn anrhydedd cael band o’r fath yn chwarae efo ‘nghaneuon.”
Yn ogystal â pherfformio ar yr albwm, Aled Wyn Hughes sydd hefyd wedi cynhyrchu’r casgliad.
Edrych ar Gymru o bell
Mae’r albwm yn ymdrin ag amrywiaeth eang o themâu. O’r gân syml ‘Bendigeidfran’ a ysgrifennodd Lleuwen i’w phlant y bore wedi pleidlais Brexit i egluro beth oedd newydd ddigwydd, i ganeuon yn ymdrin â dibyniaeth, ysbrydiaeth, twf trefol a chrebachu cefn gwlad, traffig ffordd, traffig ffôn a thraffig meddwl.
Er yn dychwelyd i gigio’n weddol aml, mae Lleuwen yn byw’n bennaf yn Llydaw erbyn hyn, ac mae hynny wedi dylanwadu’n gryf ar y casgliad newydd.
“Dw i’n edrych ar Gymru o bell. O fanno daw’r record. Cymru mewn byd sy’n wleidyddol, ecolegol, ysbrydol fregus” meddai Lleuwen.
“Mae’n record o eithafion a chyferbyniadau… dyna sut mae’r byd yn hwylio ar hyn o bryd.”
Bydd cyfle i ddysgu mwy am Gwn Glân Beibl Budr mewn Sgwrs Sydyn â Lleuwen yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan wythnos nesaf.
Prif lun: Emyr Young