Mae Alun Gaffey wedi awgrymu’n gryf y gallwn ddisgwyl cynnyrch cerddorol newydd ganddo yn y flwyddyn newydd.
Ddiwedd yr wythnos fe gyhoeddodd y cerddor fideo ar ei gyfryngau cymdeithas oedd yn cynnws nifer o glipiau byr o ganeuon, ynghyd â lluniau ohonynt yn cael eu mastro.
Yr awgrym ydy y gallwn ddisgwyl record newydd gan y cyn aelod o Pwsi Meri Mewn a Radio Luxemburg / Race Horses yn ystod Gwanwyn 2020, a hynny ar label Recordiau Côsh.
💿 Gwanwyn 2020 – gwyliwch y gofod. 💿🎶 Spring 2020 – keep your eyes peeled. 🎵
Posted by Y cerddor Alun Gaffey on Friday, 22 November 2019