Band newydd yn parcio trac ar-lein

Mae’r grŵp ifanc o’r gogledd, Maes Parcio, wedi rhyddhau eu trac cyntaf ar safle Soundcloud.

‘Chwdyns Blewog’, ydy enw’r trac newydd gan y grŵp sydd ag aelodau o Gaernarfon, Môn a Bethesda a dyma’r cynnyrch cyntaf iddynt gyhoeddi i’r byd.

Mae Maes Parcio yn grŵp newydd iawn a chwaraeodd eu gig cyntaf fel rhan o Ŵyl Arall yng Nghaernarfon fis Gorffennaf. Yr aelodau ydy Gwydion (gitâr), Ifan (bas), Twm (allweddellau) ac Owain (dryms).

Mae’r grŵp yn disgrifio sŵn y sengl gyntaf fel ‘pync’ ac yn sicr mae digon o agwedd i’w glywed ar y trac, ond mae melodi gref hefyd.

Mae modd gwrando ar y trac nawr ar safle Soundcloud y grŵp.

Dyma ‘Chwdyns Blewog’: