Mae Blodau Papur wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Yma’, ddydd Gwener diwethaf, 31 Mai ar label I Ka Ching.
Blodau Papur ydy’r grŵp oedd yn arfer perfformio fel ‘Alys Williams a’r Band’ ond sydd bellach wedi penderfynu ar yr enw newydd ers dechrau’r flwyddyn eleni.
Mae’r grŵp yn cynnwys llais anhygoel Alys Williams ynghyd â thalentau cerddorol Osian Williams, Gwion Llewelyn, Aled Huws a Branwen Williams.
Rhyddhawyd cynnyrch cyntaf y grŵp dan yr enw newydd ar droad y flwyddyn, sef y sengl ddwbl ‘Llygaid Ebrill / Tyrd Ata i’. Label Recordiau I Ka Ching ryddhaodd y sengl honno, a nhw sy’n gyfrifol am gyhoeddi ‘Yma’ hefyd.
Yn ôl Blodau Papur, cân a ysgrifennwyd mewn pum munud gan ddwyn ysbrydoliaeth o ganeuon tawelach Fleetwood Mac ydy ‘Yma’. Mae’n trafod unigolion na fedr weld fod ganddyn nhw bopeth o dan eu trwynau, ac sy’n gyson chwilio am y man gwyn man draw.