Bydd y gantores Gymreig ardderchog Cate Le Bon yn teithio yn Awstralia fis Rhagfyr eleni.
Cyhoeddodd CAte fanylion taith 6 dyddiad rhwng 9 a 15 Rhagfyr, gyda gigs yn Perth, Sydney, Brisbane, Castlemaine, Meredith a Melbourne.
Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i Cate wrth iddi ryddhau ei halbwm diweddaraf ‘Reward’ – mae’r record wedi cael ymateb ardderchog, ac wedi llwyddo i gyrraedd rhestr fer gwobr Mercury eleni.
Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi ar 19 Medi.
Dyddiadau llawn y daith:
9 Rhagfyr – Rosemount Hotel, Perth
11 Rhagfyr – Factory Theatre, Sydney
12 Rhagfyr – The Foundry, Brisbane
13 Rhagfyr – Theatre Royal, Castlemaine
14 Rhagfyr – Meredith Music Festival, Meredith
15 Rhagfyr – Croxton Bandroom, Melbourne