Mae gŵyl Tafwyl ac Y Selar yn cydweithio gyda gydag Eisteddfod yr Urdd i lwyfannu cyfres o berfformiadau nosweithiol yng Nghanolfan y Mileniwm yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Bydd gigs ‘Llwyfan y Lanfa’ yn cael ei cynnal ar lwyfan yng nghyntedd Canolfan y Mileniwm rhwng nos Sul 26 Mai a nos Iau 30 Mai. Bydd gig nos Sul rhwng 16:30 a 18:30, a gweddill y gigs rhwng 18:00 a 20:00.
Bydd y gigs yn rhad ac am ddim, ac yn ychwanegu at y bwrlwm fydd yng Nghanolfan y Mileniwm gyda’r hwyr ynghyd â’r cyngherddau, sioeau a cystadlu fydd yno gyda’r hwyr.
Bydd amrywiaeth eang o artistiaid yn perfformio ar y llwyfan gan gynnwys Kizzy Crawford, Al Lewis, Gwilym, Sera, Plu a Patrobas.
Dyma arlwy Llwyfan y Lanfa’n llawn:
Sul 26 Mai – Kizzy Crawford (16:30), Al Lewis (17:45
Llun 27 Mai – Glain Rhys (18:00), Gwilym (19:00)
Mawrth 28 Mai – Sera (18:00), Omaloma (19:00)
Mercher 29 Mai – Plu (18:00), Rhys Gwynfor (19:00)
Iau 30 Mai – Elidyr Glyn (18:00), Patrobas (19:00)