Diwedd y daith i Estrons

Roedd Y Selar yn drist iawn i glywed y newyddion fod y grŵp gwych, Estrons, wedi penderfynu eu bod am chwalu.

Cyhoeddwyd y newyddion ar gyfryngau cymdeithasol y grŵp ddydd Mercher (20 Chwefror), gan olygu eu bod yn canslo taith Wanwyn Brydeinig oedd wedi ei chyhoeddi’n ddiweddar.

Ffurfiodd y grŵp yn 2013 pan gyfarfu’r prif leisydd, Tali Källström, a’r gitarydd Rhodri Daniel, gynt o’r grŵp Java, yn Aberystwyth gan ddechrau cydweithio’n gerddorol yn fuan iawn wedi hynny. Bu sawl aelod arall o’r band dros y blynyddoedd, ond yr aelodau diweddaraf oedd Steffan Pringle ar y gitâr fas ac Adam Thomas ar y drymiau.

Bydd Estrons bob amser yn agos at galon criw Y Selar gan mai eu sengl gyntaf, ‘C-C-CARIAD!’, oedd hefyd y seng gyntaf yng Nghyfres Clwb Senglau’r Selar yn Nhachwedd 2014. Lansiwyd y sengl yn gig ‘Selar 10’ yn Aberystwyth i nodi pen-blwydd cylchgrawn Y Selar yn ddeg oed.

Canslo taith

Dilynwyd ‘C-C-CARIAD’ gan ddwy sengl Saesneg, ‘Make a Man’ ym mis Medi 2015 a ‘Drop’ ym Mai 2016. Rhyddhaodd y grŵp eu EP cyntaf, She’s Here Now, ddiwedd 2016.

Gyda chryn gyffro ynghylch a’r record, rhyddhawyd eu halbwm llawn cyntaf, You Say I’m Too Much, I Say You’re Not Enough, yn Hydref 2018 ar label Goford Records.

Roedd Estrons newydd wneud cyfres o gigs i nodi Wythnos Lleoliadau Annibynnol rhwng 28 Ionawr a 2 Chwefror, gan hefyd berfformio yn y Scala, Llundain ar 7 Chwefror.

Roedden nhw hefyd wedi cyhoeddi manylion taith 11 dyddiad ledled Prydain oedd i ddechrau yn Dundee ar 28 Mawrth a gorffen yn Efrog ar 13 Ebrill.

‘Gwahaniaethau creadigol a phersonol’

Cyhoeddwyd y newyddion am ddiwedd y prosiect ar gyfryngau cymdeithasol Estrons ar 20 Chwefror.

Gan egluro ystyr y gair ‘estroniaid’ yn y Saesneg, meddai’r band:

“…bu i ni gyfarfod fel estroniaid, dod yn ffrindiau, dod yn llai, dod yn fwy, yna llai…a nawr rydym yn ymadael fel estroniaid eto. Fe waethon ni ysgrifennu sawl can wych gyda’n gilydd, chwalu mewn i drefi a dinasoedd dros y byd i gyd ar gyfer gigs bythgofiadwy, a chyfarfod pobl anhygoel ym mhob un ohonynt.

“Estrons oedd ein bywyd dros y 5 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn galed ond yn anhygoel, a fydden ni ddim yn newid hynny am y byd. Gwahaniaethau creadigol a phersonol greodd yr hyn roedden ni, ac mae’n gwneud synnwyr eu bod yn creu yr hyn yr ydym – Estroniaid.

“Mae’n flin gennym ganslo ein taith, a bydd ad-daliad am yr holl docynnau.

“I bob un ohonoch brynodd neu chwaraeodd ein cerddoriaeth, ddaeth i’n sioeau neu ein cefnogi mewn unrhyw fodd, diolch yn fawr. I unrhyw un sy’n darllen hwn, gobeithio ein bod wedi rhoi i chi fymryn o’r hapusrwydd mae eich cefnogaeth wedi rhoi i ni. Diolch o galon.”

Yn ôl y grŵp byddan nhw i gyd yn dychwelyd yn fuan gyda phrosiectau newydd maent yn gyffrous iawn amdanynt.

Mae nifer wedi mynegi eu siom ynglŷn a diwedd cyfnod Estrons, gan gynnwys y grŵp Alffa a ddywedodd ar eu cyfrif Twitter:

“Gutted! Un o dylanwadau mwayf ni ‘tha band! Diolch @estrons”