Bydd gŵyl gerddoriaeth newydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth am y tro cyntaf ar ddydd Gwener 5 Gorffennaf, ac mae Y Selar yn falch iawn o fod yn nghanol y trefniadau.
Gŵyl Aber ydy enw syml, ond priodol, yr ŵyl newydd fydd yn cael ei chynnal yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth.
Prif nod yr ŵyl ydy cyfrannu at apêl godi arian Eisteddfod Genedlaethol 2020 a gynhelir yng Ngheredigion a hanner awr o Aber yn Nhregaron, gan godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r Eisteddfod hefyd.
Er hynny, yn ôl y criw sy’n trefnu mae hefyd yn gyfle i arbrofi a gweld â oes potensial ar gyfer cynnal gŵyl gerddoriaeth Gymraeg yn Aberystwyth yn flynyddol, gyda galw am hynny o sawl cyfeiriad dros y blynyddoedd diwethaf.
Un o’r trefnwyr ydy Owain Schiavone sydd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau cerddorol yn Aberystwyth a thu hwnt dros y blynyddoedd, gan gynnwys digwyddiad blynyddol Gwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
“Roedd criw ohonom yn credu fod angen cynnal digwyddiad o’r math yma fel rhan o’r apêl godi arian yn ardal Aberystwyth” meddai Owain.
“Mae cenhadu, a chodi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod a’r ffaith ei bod yn dod i Geredigion yn ganolog i’r cynllun hefyd ac yn hynny o beth rydym yn trio cynnwys ysgolion yr ardal gymaint â phosib yn y trefniadau.
“Mae’n gyfle hefyd i weld â oes awydd gwirioneddol ar gyfer sefydlu gŵyl gerddoriaeth reolaidd yn Aber – mae llawer o bobl wedi bod yn galw am hynny dros y blynyddoedd diwethaf. Mae traddodiad hir o wyliau o’r fath yn Aber – pethau fel Roc Ystwyth yn y 1980au a Castell Roc yn fwy diweddar.
“Dwi’n gwybod o brofiad bod pobl yn fodlon teithio o bob cyfeiriad ar gyfer digwyddiadau cerddorol mawr yn Aberystwyth, ac mae sens yn dweud y dylai tref ganolog fel hon fod â gŵyl gerddoriaeth Gymraeg. Dyma gyfle perffaith i arbrofi.”
Bydd yr ŵyl yn cyfuno cerddoriaeth gyfoes gyda pherfformiadau ysgolion yn ystod y prynhawn, a nifer o weithgareddau amrywiol eraill.
Bydd y lein-yp cerddorol, sy’n cael ei drefnu gan Y Selar mewn cydweithrediad â’r trefnwyr eraill, a manylion gweithgareddau eraill yr ŵyl yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf. Cadwch olwg ar y cyfrif Twitter @GwylAber a’r digwyddiad Facebook am y newyddion diweddaraf.